Profi, mesur a meithrin AI Cymraeg
Gwerthusiadau → GPT-6.1 Sol

GPT-6.1 Sol masnachol wedi'i fesur

Yn ail yn sgorfwrdd estynedig CymraegBench â sgôr gyffredinol o 89.05.

Pedwar gwerthuswr yn astudio modelau haniaethol mewn arena brofi dryloyw

Y ffeithiau

DatblygwrOpenAI
ID APIgpt-6.1-sol
Pris safonol$2 / $10 y filiwn tocyn (mewnbwn/allbwn)
Cyd-destun1,050,000 o docynnau; hyd at 128,000 o docynnau allbwn
Cost y rhediad llawn$1.17

Canlyniad CymraegBench

Sgôr gyffredinolRhesymu CymraegCymraeg ymarferolCyfieithu BLEU
89.0588.1190.0072.16

Defnyddiwyd yr un sampl â'r modelau blaenllaw eraill: hyd at 100 o achosion o bob un o'r 19 o setiau craidd, ag hedyn 1 a reasoning_effort=low. Cwblhaodd y model bob un o'r 2,053 achos heb wrthodiad, allbwn annilys na gwall seilwaith.

GPT-6.1 Sol sydd yn ail: 1.08 pwynt y tu ôl i GPT-6 Astra ac 1.50 pwynt o flaen Claude Opus 5.5.

Archwiliad Iaith CCC

Is-setSgôr
Cywiro ac esbonio92.42
Priod-ddull96.88
Termau96.88
Crynhoi a dyfynnu92.68
Cyfeiriadau89.69
Cyfarwyddyd Cymraeg64.17
Cyfarwyddyd Saesneg56.67
Cymedr y saith is-set84.20

Cafodd GPT-6.1 Sol 96.88 am gywiro a 57.81 am esbonio. Yn y prawf cyfeiriadau, cafodd 100 am gyfeiriadau a pheidio â dyfeisio ffynhonnell, ond 65.63 am gynnwys yr ateb.

Sut cafodd y model ei brofi?

Profwyd y model drwy API Responses OpenAI gyda saith galwad ar yr un pryd. Gosodwyd nenfwd o 32,768 o docynnau i ganiatáu i'r rhesymu cudd orffen, a sgoriwyd yr ateb terfynol yn unig. Defnyddiodd y rhediad 248,950 o docynnau mewnbwn a 67,686 o docynnau allbwn; roedd 40,698 o'r tocynnau allbwn yn rhesymu cudd a 26,988 yn ateb gweladwy.

Lawrlwytho'r canlyniadau

Model: GPT-6.1 Sol · prawf cymraegbench-gpt-6-1-sol-v0.1 · 15 Hydref 2026.