Profi, mesur a meithrin AI Cymraeg
Gwerthusiadau → Kimi K3

Kimi K3 pwysau agored wedi'i fesur

Model pwysau agored 1.56 terabeit gan Moonshot AI, heb unrhyw ddata gan y datblygwr am ei allu yn y Gymraeg.

Pedwar gwerthuswr yn astudio modelau haniaethol mewn arena brofi dryloyw

Y ffeithiau

DatblygwrMoonshot AI
Rhyddhawyd14 Gorffennaf 2026
PensaernïaethMoE â 2.8 triliwn o baramedrau i gyd / 104 biliwn yn weithredol; Kimi Delta Attention ac Attention Residuals; gallu gweledol cynhenid; ffenestr gyd-destun o filiwn o docynnau
Pwysau1.56 TB ar Hugging Face
Trwydded«Trwydded Kimi K3» — un bwrpasol, ganiataol gydag amodau masnachol; nid trwydded safonol OSI

Y Gymraeg: dim honiadau na data

Tsieinëeg a Saesneg yw'r ieithoedd a bwysleisir yn nogfennaeth K3, ac ni ddaethom o hyd i honiad, meincnod na chyfeiriad at y Gymraeg nac at iaith Geltaidd arall. Mae'r pwysau ar gael yn agored, yn wahanol i fodelau caeedig, felly gellir rhedeg profion lleol heb ddibynnu ar API'r datblygwr.

Ei faint yw'r rhwystr ymarferol. Mae 104 biliwn o baramedrau gweithredol a 1.56TB o bwysau y tu hwnt i allu'r rhan fwyaf o beiriannau unigol. Y dewisiadau realistig i'r AIsteddfod yw ei werthuso drwy wasanaeth API, neu aros am fersiynau cywasgedig.

Canlyniad CymraegBench v0.1

Sgôr gyffredinol 75.12 · rhesymu Cymraeg 77.92 · Cymraeg ymarferol 72.33 · cyfieithu BLEU 67.62. Daeth Kimi yn nawfed, y trydydd model pwysau agored uchaf ar ôl Muse Spark 1.2 a Qwen3.8 2.4T-A95B. Gweler y sgorfwrdd llawn.