Profi, mesur a meithrin AI Cymraeg
Gwerthusiadau → Qwen3.5 9B

Qwen3.5 9B pwysau agored wedi'i fesur

Model 9B cryno a redwyd yn lleol mewn BF16 ar un RTX 4090: yn rhesymol gryf ar wybodaeth gyffredinol Gymraeg, ond â bylchau amlwg mewn enwau lleoedd, mathemateg a ffurfiau ie/na.

Pedwar gwerthuswr yn astudio modelau haniaethol mewn arena brofi dryloyw

Canlyniad CymraegBench v0.1

MesurSgôr
Sgôr gyffredinol55.10
Rhesymu Cymraeg57.98
Cymraeg ymarferol52.22
Cyfieithu deddfwriaeth37.06 BLEU

Daeth Qwen3.5 9B yn ail ar bymtheg yn y sgorfwrdd estynedig, rhwng Grok 4.20 a Jupiter-N-120B. Cwblhaodd bob un o'r 2,053 achos heb wrthodiad, allbwn annilys na gwall seilwaith.

Beth mae'r proffil yn ei ddangos?

Cryfderau

ARC-Easy Cymraeg 91, ARC-Challenge 73, COPA 78, geirfa 75 a ToxiGen Cymraeg 73.

Gwendidau mewn tasgau Cymraeg

Enwau lleoedd dwyieithog 12, MGSM Cymraeg 14, ffurfiau ie/na 31 a lefelau CEFR 32.

Archwiliad CCC

Cymedr 71.10: cryf ar gyfarwyddiadau a chrynhoi, ond gwannach ar gyfeiriadau, cywiro ac esbonio.

Sut cafodd y model ei brofi?

Profwyd y model yn lleol gan ddefnyddio’r pwysau BF16 drwy vLLM 0.26 ar un NVIDIA RTX 4090, â ffenestr weithredol 4,096 o docynnau a phedwar cais ar yr un pryd. Diffoddwyd y modd rhesymu yn y templed sgwrsio fel bod y prawf yn mesur yr ateb Cymraeg ei hun. Defnyddiwyd hedyn hap 1 a hyd at 100 o achosion ym mhob set, yn union fel y samplau eraill ar y sgorfwrdd. Roedd angen codi terfyn allbwn un achos CCC i 2,048 o docynnau a defnyddio cosb ailadrodd o 1.05; ni ailadroddwyd y profion a oedd eisoes wedi llwyddo.

Lawrlwytho'r canlyniadau

Model: Qwen/Qwen3.5-9B · prawf cymraegbench-qwen3-5-9b-local-bf16-v0.1 · 10 Awst 2026.