Profi, mesur a meithrin AI Cymraeg
Gwerthusiadau → Qwen3.8 Flash

Qwen3.8 Flash wedi'i fesur

Model rhesymu amlfoddol Qwen wedi'i brofi drwy OpenRouter ar y set graidd ac Archwiliad Iaith CCC.

Pedwar gwerthuswr yn astudio modelau haniaethol mewn arena brofi dryloyw

Canlyniad CymraegBench v0.1

MesurSgôr
Sgôr gyffredinol79.81
Rhesymu Cymraeg84.06
Cymraeg ymarferol75.56
Cyfieithu deddfwriaeth58.79 BLEU

Daeth Qwen3.8 Flash yn seithfed yn y sgorfwrdd estynedig, rhwng Qwen3.8 2.4T-A95B a Claude Fable 5. Cafodd sgôr ar bob un o'r 2,053 achos: 2,052 ateb cyflawn ac un allbwn annilys a sgoriodd sero. Ni chafwyd gwrthodiad na gwall seilwaith heb ei ddatrys.

Beth mae'r proffil yn ei ddangos?

Rhesymu cryf

ARC-Easy a COPA Cymraeg 98, MGSM Cymraeg 97, ARC-Challenge ac ARC-Easy mini 94, a MMLU-lite Cymraeg 90.

Cymraeg ymarferol

ToxiGen Cymraeg 94, cofrestrau 87, gramadeg 78, geirfa 75 ac ie–na 70; sgôr y categori oedd 75.56.

Bylchau penodol

Enwau lleoedd dwyieithog a lefelau CEFR, y ddau ar 33, oedd y profion craidd gwannaf.

Archwiliad Iaith CCC

Cafodd y model gymedr beta o 91.92 ar draws y saith is-set, y pedwerydd canlyniad uchaf. Cafodd 100 ar ddilyn cyfarwyddyd Cymraeg a Saesneg, 95.18 ar grynhoi a dyfynnu, 93.75 ar briod-ddull ac 89.22 ar gyfeiriadau. Ar gywiro ac esbonio, cafodd 89.06 am y cywiriad a 58.59 am yr esboniad.

Sut cafodd y model ei brofi?

Profwyd y model qwen/qwen3.8-flash drwy OpenRouter, â thymheredd 0, hedyn hap 1 a hyd at 100 o achosion ym mhob set graidd. Roedd modd rhesymu'r model ymlaen yn ddiofyn; cadwyd y rhesymu ar wahân a sgoriwyd cynnwys yr ateb terfynol yn unig. Defnyddiwyd terfyn o 32,768 o docynnau i bob ymateb yn gyffredinol. Cyrhaeddodd un ymateb i achos CCC y terfyn hwnnw, ac yna'r uchafswm 131,072 o docynnau heb gynhyrchu ateb terfynol; cofnodwyd ef yn annilys â sgôr sero, yn unol â'r protocol.

Lawrlwytho'r canlyniadau

Model: Qwen/Qwen3.8-Flash-Next (y model pwysau agored sy'n sail i wasanaeth Flash) · gwasanaeth API: OpenRouter · prawf cymraegbench-qwen3-8-flash-openrouter-v0.1 · 27 Awst 2026.