Iaith a chyfieithu → Geirfa
Geirfa deallusrwydd artiffisial
Yr eirfa a ddefnyddiwn ar y safle. Mae'r ddwy adran gyntaf yn dilyn geirfa adroddiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Lewis, 2026), ac rydym wedi mabwysiadu'r un termau er mwyn bod yn gyson.

Termau allweddol
| Cymraeg | Saesneg |
|---|---|
| Asesu dilys | Authentic assessment |
| Asesu ffurfiannol | Formative assessment |
| Camymddwyn academaidd | Academic misconduct |
| Cydraddoldeb ieithyddol | Linguistic equity |
| Cyfrifoldeb digidol | Digital responsibility |
| Datblygiad sgiliau meddwl beirniadol | Critical thinking skills development |
| Datganiad defnydd AI | AI use declaration |
| Dylunio asesu | Assessment design |
| Gwybodaeth anghywir (camwybodaeth) | Misinformation |
| Llên-ladrad | Plagiarism |
| Llythrennedd AI | AI literacy |
| Rhithwelediad | Hallucination |
| Tryloywder | Transparency |
| Uniondeb academaidd | Academic integrity |
| Ymchwil foesegol | Ethical research |
| Ymwybyddiaeth foesegol | Ethical awareness |
Termau
| Term Cymraeg | Term Saesneg | Diffiniad |
|---|---|---|
| corpws (corpora) | corpus (corpora) | Casgliad helaeth o ddata ieithyddol, testunau neu recordiadau sain. |
| cyfieithu peirianyddol | machine translation | Proses awtomataidd o drosi testun o un iaith i iaith arall gan ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol. |
| data hyfforddi | training data | Set o destunau, recordiadau sain neu ddata eraill a ddefnyddir i hyfforddi model iaith. |
| AI cynhyrchiol | generative artificial intelligence | System AI sy'n gallu cynhyrchu cynnwys newydd, megis testun, delweddau neu sain, drwy ddysgu patrymau mewn data. |
| lleferydd-i-destun | speech-to-text | Trosi sain lafar yn destun ysgrifenedig gan ddefnyddio technoleg adnabod lleferydd. |
| Model Iaith Mawr (MIM) | Large Language Model (LLM) | Model cyfrifiadurol sy'n dadansoddi setiau enfawr o ddata er mwyn dysgu ac efelychu iaith ddynol. |
| rhyngwyneb defnyddiwr (UI) | User Interface | Yr elfen weledol sy'n galluogi'r defnyddiwr i ryngweithio â system, gan gynnwys botymau, dewislenni a chynllun y dudalen. |
| sgwrsfot | chatbot | Rhaglen sy'n efelychu sgwrs ddynol drwy ddefnyddio technoleg AI sgwrsiol. |
| testun-i-leferydd | text-to-speech | System sy'n darllen testun ar goedd drwy gynhyrchu lleferydd synthetig. |
Termau penodol yr AIsteddfod
At ddibenion y wefan hon a'i chystadlaethau, defnyddiwn hefyd y termau canlynol:
| Term | Saesneg | Diffiniad |
|---|---|---|
| meincnod | benchmark | Prawf safonol, ailadroddadwy a ddefnyddir i fesur gallu model — gweler ein tudalennau gwerthuso. |
| mireinio model | fine-tuning | Hyfforddi model sylfaen ymhellach ar ddata penodol, megis data Cymraeg — er enghraifft, Jupiter-N neu Mwydryn. |
| harnais | harness | Yr amgylchedd meddalwedd o amgylch model wrth gystadlu: y cyfarwyddiadau, yr offer, y cylchoedd adborth a'r broses ddethol. Rhaid ei ddatgan yn llawn dan ein rheolau. |
| rhoi cyfarwyddiadau | prompting | Llunio a rhoi cyfarwyddiadau i fodel — gweler sut i roi cyfarwyddiadau yn Gymraeg. |
| pwysau agored | open weights | Model y gellir lawrlwytho'i baramedrau a'i redeg yn lleol, boed dan drwydded agored ai peidio. |
| cerdyn model | model card | Dogfen safonol sy'n disgrifio data, hyfforddiant, trwydded a chyfyngiadau model. Mae'n ofynnol gyda phob cais i gystadleuaeth. |
Ffynhonnell y ddwy adran gyntaf: «Deallusrwydd Artiffisial (AI), y Gymraeg ac Addysg Uwch» (Kara Lewis, PCYDDS / Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mehefin 2026) — ein dadansoddiad llawn.
