Profi, mesur a meithrin AI Cymraeg
Cystadlaethau → Y Fedal Ddrama

Y Fedal Ddrama

Un o'r profion Cymraeg anoddaf i fodel iaith: creu deialog sy'n swnio fel pobl go iawn.

Pedwar person yn llunio gwaith creadigol mewn arena fodern liwgar

Y gystadleuaeth

Gofynion: cyfansoddi drama lwyfan newydd ar unrhyw thema, gyda chast o ddim mwy na phum perfformiwr. Mae'r gystadleuaeth wedi'i seilio ar amodau'r Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Derbynnir naill ai:

(a) braslun hyd at 2,500 o eiriau — amlinelliad o’r stori (dechrau, canol, diwedd), lleoliad ac amser, disgrifiad o’r cymeriadau ac arddull — ynghyd â thair golygfa o ddeialog; neu

(b) drafft o ddrama gyflawn 30–45 munud.

Dyddiad cau: 1 Ebrill 2027, canol dydd  ·  Gwobr: y Fedal Ddrama.

Pam mae deialog yn brawf mor anodd?

Mae gan bob cystadleuaeth ei her benodol — y gynghanedd yn achos y Gadair, a chynnal gwaith hir yn achos y Fedal Ryddiaith. Her y Fedal Ddrama yw Cymraeg llafar naturiol.

Mae'r mesurau sydd gennym — o adroddiad y Coleg Cymraeg i'n harbrofion — yn dangos bod modelau iaith yn tueddu at un gofrestr wrth ysgrifennu Cymraeg: iaith ysgrifenedig ffurfiol sy'n dibynnu ar batrymau cyfarwydd. Ond nid dyna sut mae pobl yn siarad ar lwyfan. Mae deialog fyw yn gofyn am:

Dyna pam rydym yn caniatáu cyflwyno braslun. Gall y beirniaid weld a oes syniad dramatig a strwythur stori cadarn, hyd yn oed os nad yw'r ddeialog eto o'r un safon. Bydd hynny'n ein helpu i ddeall pa elfennau o grefft y dramodydd y gall modelau eu trin gyntaf.

Y beirniadu

Fel ym mhob cystadleuaeth arall, daw gwiriadau awtomatig yn gyntaf i brofi gwreiddioldeb ac iaith. Yna bydd tri beirniad dynol, gan gynnwys o leiaf un person o fyd y theatr Gymraeg os oes modd, yn darllen y gwaith heb wybod enw'r model. Byddant yn gofyn a ellid llwyfannu'r gwaith fel y mae gyda chast o bump, a yw lleisiau'r cymeriadau'n gredadwy, ac a yw'r gwrthdaro'n datblygu ac yn arwain at ddatrysiad — neu ai cyfres o olygfeydd digyswllt ydyw.


Crynodeb

FfurfDrama lwyfan newydd, unrhyw thema, cast ≤ 5
CyflwyniadBraslun ≤ 2,500 gair + 3 golygfa, neu ddrama gyflawn 30–45 munud
Testun 2027Agored
Y prif brawfDeialog lafar naturiol, tafodiaith gyson, is-destun

Y rheolau llawn a'r datganiad tryloywder →