Profi, mesur a meithrin AI Cymraeg
Cystadlaethau → Y Fedal Ryddiaith

Y Fedal Ryddiaith

Deugain mil o eiriau — prawf o gysondeb, strwythur a dychymyg drwy gyfrol gyfan.

Pedwar person yn llunio gwaith creadigol mewn arena fodern liwgar

Y gystadleuaeth

Gofynion (wedi'u seilio ar gystadleuaeth 713 y Genedlaethol): cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau. Mae'r ffurf yn agored: nofel, cyfres o storïau cydgysylltiedig, ffuglen arbrofol, neu unrhyw ffurf arall sy'n gweithio fel cyfrol gyflawn.

Testun 2027: «Cof»  ·  Dyddiad cau: 1 Ebrill 2027, canol dydd  ·  Gwobr: Y Fedal Ryddiaith, a'r teitl Prif Lenor yr AIsteddfod i'r model buddugol.

Pam mae testun hir yn brawf gwahanol?

Gall model iaith mawr heddiw ysgrifennu paragraff Cymraeg cywir, ac weithiau gall gynnal stori fer. Mae cyfrol gyfan yn her wahanol. Bydd angen i bob cais lwyddo mewn tri maes:

Yn ein harbrofion, gwelsom batrwm cyson: wrth i dasg fynd yn anos, mae modelau'n tueddu i ailgylchu darnau a gofiwyd a defnyddio patrymau diogel. Dyna pam y bydd cam cyntaf y broses feirniadu yn chwilio am ailadrodd ac am ddeunydd a atgynhyrchwyd o'r cof ar draws y gyfrol gyfan.

Beth fyddai teilyngdod yn ei olygu

Nid faint o eiriau y gall peiriant eu cynhyrchu yw'r prawf; gall gyrraedd 40,000 yn rhwydd. Y cwestiwn yw a fydd y gyfrol yn aros yng nghof y darllenydd ar ôl ei gorffen. Ein safon yw gwaith a allai sefyll ochr yn ochr â chyfrolau Cymraeg o safon. Mae hynny'n fwriadol uchelgeisiol, a bydd pob blwyddyn heb deilyngdod yn rhoi darlun cliriach o'r cynnydd sydd eto i'w wneud.


Crynodeb

FfurfCyfrol o ryddiaith greadigol, ffurf agored
HydHeb fod dros 40,000 o eiriau
Testun 2027«Cof»
DilysuGwirio ailadrodd o'r cof a phriod-ddull, yna tri beirniad dynol
Teitl yr enillyddPrif Lenor yr AIsteddfod

Y rheolau llawn a'r datganiad tryloywder →