Claude Opus 5.5 masnachol wedi'i fesur
Yn ail yn sgorfwrdd estynedig CymraegBench â sgôr gyffredinol o 87.55.

Y ffeithiau
| Datblygwr | Anthropic |
|---|---|
| Rhyddhawyd | 22 Medi 2026 |
| ID yr API | claude-opus-5-5 |
| Pris | $4 / $20 y filiwn tocyn (mewnbwn/allbwn) |
| Cyd-destun | 1 miliwn o docynnau; hyd at 128,000 o docynnau allbwn |
| Trwydded | Perchnogol (API) |
Ffynonellau'r model: cyhoeddiad Anthropic a manyleb Claude Opus 5.5.
Canlyniad CymraegBench
| Sgôr gyffredinol | Rhesymu Cymraeg | Cymraeg ymarferol | Cyfieithu BLEU |
|---|---|---|---|
| 87.55 | 89.55 | 85.56 | 72.52 |
Defnyddiwyd yr un sampl ag yn y profion ar y modelau blaenllaw eraill, wedi'i dewis drwy ddull sy'n rhoi'r un achosion bob tro: hyd at 100 o achosion o bob un o'r 19 o setiau craidd, ag hedyn hap 1. Gosodwyd effort=low a lleiafswm allbwn o 512 o docynnau; ail-redwyd pedwar ymateb a gyrhaeddodd y terfyn â 2,048 o docynnau. Nid yw'r 232 o achosion CCC yn cyfrannu at y sgôr gyffredinol.
Opus 5.5 sydd yn ail yn y sgorfwrdd estynedig: 2.58 pwynt y tu ôl i GPT-6 Astra a 2.39 pwynt o flaen Opus 5. Cwblhaodd bob un o'r 2,053 o achosion heb wrthodiad nac allbwn annilys.
Nodyn sgorio: ar y profion deuaidd Gramadeg a ToxiGen, derbynnir label Y neu N clir ar ddechrau'r ateb hyd yn oed os oes esboniad ar ei ôl. Cadwyd copi o'r gronfa ddata cyn ailsgorio. Datgelodd yr archwiliad hefyd un ateb a orffennodd â Y pan mai N oedd y targed; ni chafodd hwn ei gyfrif yn gywir. Dyna pam mai 87.55, nid yr amcangyfrif cychwynnol 87.61, yw'r canlyniad cyhoeddedig.
Archwiliad Iaith CCC
| Is-set | Sgôr |
|---|---|
| Cywiro ac esbonio | 96.48 |
| Priod-ddull | 100.00 |
| Termau | 100.00 |
| Crynhoi a dyfynnu | 94.46 |
| Cyfeiriadau | 86.41 |
| Cyfarwyddyd Cymraeg | 100.00 |
| Cyfarwyddyd Saesneg | 100.00 |
| Cymedr y saith is-set | 96.76 |
Cafodd Opus 5.5 sgôr lawn am gywiro, categori a rheol, a 64.84 am esbonio. Ar y prawf cyfeiriadau cafodd 90.63 am ddewis cyfeiriadau, 73.44 am gynnwys yr ateb, a 100 am beidio â dyfeisio ffynhonnell.
Gweler y sgorfwrdd llawn, Archwiliad Iaith CCC, neu lawrlwythwch y crynodeb, sgoriau fesul set, dimensiynau CCC a'r metadata.
