Profi, mesur a meithrin AI Cymraeg

Gemma 4 E4B Cymraeg v4 pwysau agored

Gwerthusiad annibynnol o fodel Cymraeg EryriLabs ar RTX 4090.

Y model

DatblygwrEryriLabs
Sylfaengoogle/gemma-4-E4B-it
Maint6.9B i gyd; tua 4B effeithiol
Hyfforddiant43.8 miliwn o docynnau CPT Cymraeg, yna 19,443 o enghreifftiau cyfarwyddyd gyda data ailchwarae.
Trwydded a nodir gan y datblygwrApache-2.0

Mae pwysau BF16 cyfun, addaswyr CPT/SFT a fersiynau GGUF ar gael. Profwyd Q8_0 yma, nid BF16.

Mae’r datblygwr yn nodi risg o ailadrodd mewn atebion hir, ffeithiau anghywir a dyfynnu gormodol. Nid prawf o ddiogelwch na barn siaradwyr Cymraeg yw’r meincnod hwn.

Ein canlyniad CymraegBench

CyffredinolRhesymu CymraegCymraeg ymarferolBLEU
49.7051.3948.0040.23

2,053 o achosion wedi’u sgorio; 0 allbwn annilys (0.0%), 0 gwrthodiad. Dim gwall seilwaith ar ôl.

Ailbrofwyd 9 o fethiannau’r rhediad cyntaf; cafwyd ateb cyflawn ym mhob achos.

Protocol a dibynadwyedd

CymraegBench v0.1: hyd at 100 o achosion ym mhob set graidd, hedyn 1, tymheredd 0, llawr allbwn 512 tocyn, meddwl wedi’i ddiffodd a thempled sgwrs y model. Mae 19 set graidd a 232 achos CCC; nid yw CCC na BLEU yn cyfrannu at y sgôr gyffredinol.

RTX 4090 ar b4090; GGUF Q8_0 drwy llama.cpp b12019; pedwar cais cyfochrog a 16,384 tocyn cyd-destun fesul slot. Cedwir copi cyn ailbrofi. Ailbrofir methiannau yn unig gyda llawr 2,048 tocyn a repeat_penalty 1.05 wedi’i orfodi ar y gweinydd. Mae methiant allbwn parhaol yn sgorio sero; mae gwall seilwaith yn atal cwblhau.

Adolygiad y pwysau: b415f5c752bb4bf91ede4bbaf9236d45cb948837

Archwiliad Iaith CCC

Crynhoi a dyfynnu96.07
Cyfarwyddyd Cymraeg93.33
Cyfarwyddyd Saesneg100.00
Cyfeiriadau69.06
Cywiro ac esbonio27.81
Priod-ddulliau56.25
Termau50.00

Cymedr y saith is-set: 70.36

Canlyniadau’r datblygwr — ar wahân

CyffredinolRhesymu CymraegCymraeg ymarferolBLEU
49.6451.3947.8939.80

Dyma’r rhifau a gyflwynwyd yn issue #3, nid canlyniadau ein rhediad. Gall fersiwn yr harnais, maint cyd-destun fesul slot a’r gosodiad ailbrofi effeithiol newid y canlyniad.

Data a ffynonellau