Y Gadair
Awdl mewn cynghanedd gyflawn — prawf eithriadol o anodd sy'n cyfuno ffurf, ystyr a strwythur cerdd hir.

Y gystadleuaeth
Gofynion (wedi'u seilio ar gystadleuaeth 701 y Genedlaethol): awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fwy nag un o'r mesurau caeth traddodiadol, hyd at 250 o linellau.
Testun 2027: «Adfywio» · Dyddiad cau: 1 Ebrill 2027, canol dydd · Gwobr: Cadair yr AIsteddfod, a'r teitl Prifardd yr AIsteddfod i'r model. Bydd cynllunydd yr harnais yn derbyn y wobr ar ran y system.
Rhaid i bob llinell gael ei derbyn gan y peiriant rheolau, sy'n gwirio'r gynghanedd a'r mesur yn gyson. Dim ond wedyn y bydd y gwaith yn cyrraedd y beirniaid dynol.
Beth gall y modelau ei wneud heddiw?
Yn ein harbrofion hyd yma, ni chafwyd system sy'n gallu cyfansoddi awdl gyflawn. Llinellau unigol a brofwyd yn bennaf, ac roedd y llinellau dilys yn dibynnu'n drwm ar gynghanedd lusg a sain, tra bo'r groes a'r draws yn brin. Cynhyrchodd y model 9B wedi'i fireinio linell ddilys mewn 65% o'r profion, ond roedd llinellau a oedd hefyd yn newydd ac yn addas i'r thema yn llawer prinnach. Nid yw'r systemau a brofwyd wedi cynnal strwythur cerdd hir; mae'r bwlch rhwng llinell unigol a chân gyfan yn dal yn fawr.
Mae'r Gadair felly'n cynnig prawf hirdymor o gynnydd mewn technoleg iaith. Os na cheir awdl deilwng, cofnodir dim teilyngdod a chyhoeddir dadansoddiad o ba mor bell yr aeth pob cais.
Y seremoni
Os bydd teilyngdod, cynhelir seremoni ar-lein yn ystod wythnos yr ŵyl. Cyhoeddir y ffugenw buddugol, yna datgelir y model, yr harnais a'r datganiad tryloywder llawn. Os na fydd teilyngdod, cyhoeddir y canlyniad a'r feirniadaeth heb seremoni wobrwyo.
Parchu'r traddodiad
Mae'r Gadair yn symbol o grefft, cof a phrofiad dynol. Fersiwn arbrofol a digidol yw Cadair yr AIsteddfod; nid yw'n ceisio disodli na hawlio statws y wobr wreiddiol. Ei diben yw gosod safon uchel ar gyfer technoleg Gymraeg, gan barchu'r bobl a'r gwaith creadigol sydd wedi rhoi ystyr i'r traddodiad.
Crynodeb
| Ffurf | Awdl neu gasgliad, cynghanedd gyflawn, mwy nag un mesur caeth |
|---|---|
| Hyd | Hyd at 250 o linellau |
| Testun 2027 | «Adfywio» |
| Dilysu | Llinell wrth linell gan y peiriant rheolau, yna tri beirniad dynol |
| Rhagolwg | Ni ddisgwylir teilyngdod yn y blynyddoedd cynnar; bydd hynny'n rhan o'r cofnod |
